Pencraig Goch 2007 (S Everett) Wild Meadows - Back to front page
Wild Meadows - Back to front page
SEARCH   
CONTACT US    SITE MAP    NEWS    GRANTS    FORUM
Marshy meadow, Gower (C Crafer)
Marshy meadow, Gower (C Crafer)
Dolydd gwyllt - cyflwyniad
An introduction to Wild Meadows
 
Mae dolydd gwyllt yn feysydd llawn o flodau gwyllt, glaswellt a hesg sydd wedi datblygu'n naturiol, fel arfer heb eu plannu'n fwriadol. Mae'r cymunedau gwyllt yn cynnal amrywiaeth eang o blanhigion sydd wedi addasu er mwyn ffynnu o fewn yr hinsawdd a'r tir lleol. Gall y cynefinoedd hyn gynnal 15 neu fwy o rywogaethau blodau gwyllt per metr sgwâr, ynghyd â ffyngau a mwsogl.  
 
Cynefin amaethyddol yw dolydd blodau gwyllt - wedi'u ffurfio gan ganrifoedd o ffermwyr yn pori gwartheg, ceffylau a defaid arnynt. Yn draddodiadol, roedd llawer yn gaeedig er mwyn creu gwair i'w dorri tua diwedd yr haf. Mae pori, neu bori a chreu gwair, yn hanfodol i gynnal fflora amrywiol dolydd gwyllt gan eu bod yn atal tyfiant twmpathau glaswellt, prysg a choed. Fodd bynnag, mae'r cynefin o dan fygythiad ym mhob man. Ar draws llawer o'r Deyrnas Unedig mae dolydd gwyllt yn brin iawn ac yn gyfyng i ardaloedd bach iawn o fewn tirwedd sy'n destun dulliau ffermio dwys.
 
Glaswelltiroedd sy'n nodweddu llawer o dir Cymru a gorllewin ac uwchdiroedd Prydain o dan y llinell rhostiroedd. Fodd bynnag, datblygwyd y rhan helaeth o'r glaswelltiroedd isel yn yr ardaloedd hynny at ddibenion amaethyddol wrth ddefnyddio gwrtaith artiffisial neu fiswail a chwynladdwyr, ac aredig ac ail-hadu gyda rhywogaethau rhygwellt a chnydau megis y Feillionen Wen. Mae rhoi gorau i bori a chreu gwair ar ffermydd yn fygythiad newydd i'r uwchdiroedd 'isel', gyda ffermwyr yn ymddeol a phobl newydd heb dda byw neu offer creu gwair i gynnal y glaswelltiroedd. Heb bori neu ladd gwair, bydd llawer o'r glaswelltiroedd a'u bywyd gwyllt, megis pili-pala Brith y Gors, yn diflannu o dan redyn a phrysg. Ar ffiniau'r uwchdiroedd, mae gor-bori gan ddefaid yn erydu'r cynefin ac ar ymylon trefi mae datblygu stadau tai a pharciau busnes newydd, a gor-bori gan geffylau yn eu bygwth ymhellach.
 
Ar draws y Deyrnas Unedig, mae bygythiad mawr i ddolydd gwyllt a'u hamrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt - bygythiad mwy difrifol nag i hen goetiroedd a chloddiau. Fodd bynnag, mae llawer o fentrau lleol newydd yn helpu perchnogion a rheolwyr tir i adfer a chynnal y cynefin hwn. Hyd yn oed mewn trefi, mae diddordeb cynyddol mewn creu glaswelltiroedd blodau gwyllt er lles cymunedau lleol.

Ewch i'r ardal Gwybodaeth er mwyn dysgu mwy am ddosbarthiad, rheoli, adfer, bywyd gwyllt ac ecoleg dolydd gwyllt. Yn ogystal, nodir manylion gweithgareddau a phrojectau yn eich ardal yn yr adran Gwaith Lleol.

Wild Meadows are grasslands full of wild flowers, grasses and sedges that have developed naturally, usually without planting. Their distinctive wild-plant communities support a high diversity of plant species that are adapted to the local climate, soil and land management. This habitat can support 15 or more different flowering plant species per square metre (usually many more than this) as well as grassland fungi and mosses.

Wildflower grasslands are an agricultural habitat – shaped by many centuries of farmers grazing them with cattle, ponies or sheep. Many were traditionally shut up to make hay, which would be cut mid-late summer. Grazing, or grazing and hay-making, are vital to maintain the diverse flora of Wild Meadows as both prevent the growth of tussocky vegetation, scrub and trees. However, this habitat is greatly threatened everywhere. Across much of the UK wildflower grasslands are now scarce and confined to small fragments in an intensively farmed landscape.

Grassland dominates the land cover of Wales, western and upland Britain below the moorland line. However, the majority of lowland grassland in all these areas has been agriculturally improved, due to the use of artificial fertilisers or slurry, broad-leaved weedkillers, ploughing and re-seeding with cultivated varieties of Perennial Rye-grass and fodder plants such as White Clover. Abandonment of grazing and hay-making owing to loss of active farming are new threats in the ‘low’ uplands, where farmers are retiring and newcomers have no livestock or hay-making machinery to maintain their grasslands. Without grazing or cutting, such grasslands and their associated wildlife, such as the Marsh Fritillary butterfly, will rapidly disappear under bracken and scrub. On the upland fringe, overgrazing by sheep is resulting in further losses of this habitat, while on the edge of towns the habitat is threatened by the expansion of housing estates and business parks and by severe overgrazing by horses.

Across the United Kingdom, wild meadows and their diversity of wild plants and animals are greatly threatened – far more so today than are ancient woodlands or hedgerows. However, there are also many new local initiatives helping landowners and land managers to restore and maintain this habitat. Even in towns, there is a growing movement promoting the creation of wildflower grasslands for public enjoyment.

Go to the Knowledge Zone to find out more about the distribution, extent, management, restoration, wildlife and ecology of wild meadows or to the Local Action section to find out about activities and projects in your area.